Edrych dros Llandecwyn a’r bae, mae Eglwys St Tecwyn’s Church yn gwasanaethu cymunedau Llandecwyn & Talsarnau.


Hanes yr Eglwys:

 

Mae enw’r Eglwys yn tarddu o St Tecwynm a gredir iddo gyrraedd yma yng Nghymru (ynghyd â St Twrog, sant noddedig eglwys gyfagos Maentwrog yn Plwyf Bro Moelwyn) o Lydaw tua 516 O.C. yng ngosgordd St Cadfan.

Fe ail-adeiladwyd yr Eglwys bron yn yr union safle â’r eglwyss wreiddiol yn 1879, pan fu i bron pob gwrthrych hynafiaethol gael ei ddifrodi, ac eithrio’r basn bach a’r gilfach y safai ynddi i’r Dde o’r allor.

Wrth ail-adeiladu’r Eglwys yn 1879, fe ddarganfuwyd carreg tus 12 troedfedd o ran Ddwyreiniol yr Eglwys tu allan i ganllawiu’r allor, a 3 droedfedd oddi ar y llawr.  Mae’r garreg yn 14 modfedd o hyd gyda lled o 3 modfedd ar un ochr yn lleihau i 2 1/2 ar yr ochr arall, ac yn 2 fodfedd o drwch.  Ar ochr llyfn y garreg mae yna arysgrif a ddehonglwyd gan y diweddar Sir Edward Anwyl:

SCTI TETQUINI PR(ESBTER) I H(O) RI DEI CLARIS (IMI)

Q(UE) DEI S(E)ROI, HELI DIAC(N) I ME FECIT –I–
ABCDEF —I—

syn golygu:

(CROES) ST TECWYN, HENURIAD (=OFFEIRIAD) I ANRHYDEDDU DUW
AC ARDDERCHOCAF WAS DUW, HELI DIACON A’M GWNAETH.  ABCDEF
DEACON MADE ME. ABCDEF.


Credir mae’r dyddiad oedd yr unfed ganrif ar ddeg.  Saif y garreg yn ddiogel ym mur canoloesol yr Eglwys.  Nodi’r fod y llythrennau yn mân-llythrennog ac heb eu cerfio â chyn, ond wedi eu dynodi gan resi parhaol o ddotiau, a wnaethpwyd mae’n debyg â morthwyl a hoelen.  Roedd ho’n draddodiadol yn Iwerddon, ac o bosib yma yng Nghymru, i gerfio llythrennau’r wyddor Rhufeinig ar gerrig beddau athrawon a chenhadwyr.

Mae’r wybodaeth uchod wedi ei gyfaddasu o nodiadai’r Parchedig G. Chambres, Mor Edrin, Talsarnau ac o erthygl a gynhwysir yng Nghomisiwn Brenhinol ar ‘Golgolofnau Hynafol yng Nghymru’. (Arch. Cambs. 1905 and ib. vi 121)

Rhagor o Wybodaeth

Am mwy o wybodaeth dilynwch y linciau canlynol:
Gwybodaeth Eglwys St Tecwyn: Cadw
Gwybodaeth Eglwys St Tecwyn: Coflein RCHAMW
Gwybodaeth Porth Mynwent Eglwys: Cadw/Cymru Hanesyddol