Mae Eglwys St Mihangel, Ynys, Llanfihangel y Traethau yn gwasanaethu cymynedau Talsarnau a Ynys.  Mae gwasanaethau addoliant yn digwydd pob dydd Sul.

Ymweld

Mae Eglwys St Mihangel ar agor yn ystod oriau dydd i ymwelwyr.  Mae na arwydd fychan ar ffordd yr A496 yn Ynys dangos yr ffordd i’r Eglwys.


Hanes

Ystyr Llanfihangel-y-Traethau yw Eglwys Sant Mihangel ar y traethau.  Gellir olrhain cadwyn o Fryniau Sant Mihangel hynafol a chysegredig ar hyd traethau y byd Celtaidd o Lydaw i’r Alban (mae yna un arall ar yr ochr arall i’r aber, yn Nhreflys, y tu uchaf i Forfa Bychan).  Adeg adeiladu’r eglwys hon, yr oedd, fel y lleill, yn ynys garregog yn dibynnu ar y llanw – dyna yw ystyr enw’r pentref ‘Ynys’ sef yn llythrennol Ynys.  Byddai’r addolwyr yn yragasglu yno mewn cychod neu gwrwglau, neu ar droed neu ar gefn ceffyl ar draws y tywod.  Yr adeg honno roedd y plwyf yn cynnwys y cyfan o’r arfordir cyfagos o aber yr Afon Glaslyn hyd at derfynau Llandanwg, i’r de o Harlech.  Ni giliodd y mor o’r tir rhwng Ynys a Harlech hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac roedd yn 1805 erbyn cau’r llanw yn gyfangwbl gyda morglawdd o Ty Gwyn yn Yr Ynys hyd at y tir mawr ger Glan-y-Wern.  Eglwys morwyr oedd yn y ganrif diwethaf, fel a welir oddi wrth enwau morwyr a chapteiniaid ar y beddfeini, ac fe adeiladwyd llongau pren, a hwyliai’r Iwerydd, ar y traethau cyfagos, yn Aber-Ia (Portmeirion rwan), Carreg-y-ro ac – yn fwysicach fyth – Ty Gwyn Gamlas, Ynys, a oedd y porthladd a gyflenwai Gastell Harlech. 

Mae’r Eglwys hon yn llawer mwy hynafol na’i golwg.  Ychydig lathenni wrth y porth fe welwch, ymysg y beddau, un gofeb unigryw, cofeb sydd wedi goroesi ers yr amser cyn i’r Normaniaid orchfygu Cymru.  Maen-hir cul, wedi ei wisgo gan y tywydd ydyw, ac arysgrif o’r ddeuddegfed ganrif ar ei bedair ochr. Fel hyn mae’n darllen (gyda’r cwtogiadau wedi ei ehangi):

HIC EST SEPULCHRUM WLEDR MATRIS (H)ODELEV

QUI PRIMUM AEDIFICAVIT HANC ECCLESIAM IN

TEMPORE EWINI

neu

DYMA FEDD WLEDR MAM HOEDLIW
A ADEILADODD YR EGLWYS HON YN AMSER Y BRENIN OWAIN GWYNEDD

Roedd Owain Gwynedd yn teyrnasu dros Wynedd o 1137 i 1170 O.C.  Mae’r muriau hyn ganrif a banner yn hyn na gwaith maeti Gastell Harlech. 

(Cyfieithwyd a darllenwyd yr arysgrif gan W.J. Hemp, F.S.A.) 

Rhagor o Wybodaeth

An mwy o wybodaeth dilynwch y linciau canlynol:
Gwybodaeth Eglwys St Michangel: Cadw
Gwybodaeth Eglwys St Michangel: CBHC
Careg tu allan i Eglwys St Mihangel: Cadw
Careg tu allan i Eglwys St Mihangel: CBHC